Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

 

 

 

 

 

                    

                                       

                19 Mehefin 2015

Annwyl Gyfaill,

 

Ymgynghoriad ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). I gynorthwyo ei waith, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.

 

Beth yw Bil?

Cyfraith arfaethedig yw Bil. Ar ôl i’r Cynulliad ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn “Ddeddf y Cynulliad”.

 

Mae pedwar cyfnod i’r broses o ystyried Bil. Yng Nghyfnod 1, bydd pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil (sy’n cynnwys cymryd tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan rai sydd â diddordeb a chan randdeiliaid); ac mae Cyfnod 1 hefyd yn cynnwys cael cytundeb y Cynulliad i’r egwyddorion cyffredinol hynny.

 

Beth y mae’r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni?

Mae'r Bil yn nodi cyfres o gynigion mewn meysydd blaenoriaeth yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus.

 

 

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Tybaco a chynhyrchion nicotin

Triniaethau arbennig

Gwasanaethau fferyllol

Darpariaeth toiledau

 

Mae’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef ar gael ar wefan y Cynulliad:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12763&AIID=22862  

 

Beth yw rôl y Pwyllgor?

Rôl y Pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth, a chyflwyno adroddiad ar hyn. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ei waith:

 

 

Ystyried:

·        Yr angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd canlynol -

o   Cyfyngu ar y defnydd o dybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin fel sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig a sylweddol gaeedig, a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn ymestyn y cyfyngiadau i fannau agored penodol;  

o   Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;

o   Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau sy'n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru;

o   Gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin i bobl o dan 18 oed;

o   Creu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n darparu 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio;

o   Cyflwyno gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o'r corff i bobl o dan 16 oed;

o   Newid y trefniadau ar gyfer penderfynu ar geisiadau gan wasanaethau fferyllol i gael eu cynnwys ar restr fferyllol Byrddau Iechyd Lleol, i system sy'n seiliedig ar anghenion fferyllol cymunedau lleol;

o   Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynllunio sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau o ran cael mynediad i gyfleusterau toiled i'r cyhoedd eu defnyddio.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar y Bil. Yn benodol, byddai yn croesawu eich barn ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad A i’r llythyr hwn.

 

Hefyd, bydd modd cyflwyno barn ar y Bil drwy ddefnyddio profforma ar-lein er mwyn ymateb i gwestiynau neu drwy gwblhau arolwg. Bydd y profforma a’r arolwg ar gael ar y wefan cyn hir.

 

Mae'r Pwyllgor yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ar bob agwedd ar y Bil yn y gobaith y gall y dystiolaeth hon lywio ei adroddiad a'i argymhellion. Bydd sesiynau tystiolaeth lafar y Pwyllgor yn canolbwyntio ar rannau canlynol y Bil pellgyrhaeddol hwn:

·                      Rhan 2 – tybaco a chynhyrchion nicotin

·                      Rhan 3 – triniaethau arbennig

·                      Rhan 4 – tyllu rhannau personol o'r corff

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ceisio ymchwilio i themâu cyffredinol mewn sesiynau tystiolaeth lafar gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byrddau iechyd lleol Cymru, cyrff proffesiynol ac academyddion perthnasol, a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Pan fydd yr holl dystiolaeth ysgrifenedig wedi dod i law, bydd y Pwyllgor yn asesu a oes angen clywed rhagor o dystiolaeth lafar. 

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Rhoddir canllawiau i dystion sy’n darparu tystiolaeth ysgrifenedig yn Atodiad B. Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno’n ysgrifenedig gan ei bod yn arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor ar ein gwefan fel ei bod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus.  Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru  Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai’r dystiolaeth gyrraedd erbyn  dydd Gwener 4 Medi 2015. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. Cofiwch fod sesiwn dystiolaeth gyntaf y Pwyllgor ar gyfer y Bil wedi’i threfnu ar gyfer 1 Gorffennaf 2015. Bydd y Pwyllgor yn clywed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sef yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, yn ystod y cyfarfod hwn.

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr ymgynghoriad. Rhoddir copi o’r llythyr hwn hefyd ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored i gyflwyno barn:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=181&RPID=1251088157&cp=yes

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Mae copi caled o’r polisi hwn ar gael o wneud cais amdano gan y Clerc.

 

Yn gywir

David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol